Wales Legislation Online
Google
Fformat y Gwasanaeth

 

Mae Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gael o dan: Cyfansoddiad > Deddf Llywodraeth Cymru (pwerau deddfu) 2006

Llywio

ABCDEFGHIJKLMNOPQRSTUVWXYZNo
1 - 10001001 - 20002001 - 30003001 - 4000AZ

Mae gan restrau Deddfau ac Offerynnau Statudol fariau llywio tebyg i'r rhai uchod.

Cynllun Tudalennau

Deddfau

Mae pob tudalen sy’n dadansoddi Deddf wedi’i rhannu’n adrannau, fel nodir isod.

  • Pwrpas y Ddeddf.
  • Dolenni i Ddeddfau ‘diwygiedig’ neu ‘diwygiwyd gan.’
  • Swyddogaethau a gyflawnir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unig.
  • Swyddogaethau a gyflawnir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru â’r* Llywodraeth Ganolog neu gyrff eraill.
  • Swyddogaethau a gyflawnir gan y Llywodraeth Ganolog mewn perthynas â Chymru.
  • Gorchmynion Cychwyn a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu’r Llywodraeth Ganolog mewn perthynas â Chymru.
  • Offerynnau Statudol Cyffredinol a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn unig.
  • Offerynnau Statudol Cyffredinol a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymruâ’r* Llywodraeth Ganolog neu gyrff eraill.
  • Offerynnau Statudol Cyffredinol a wnaed gan y Llywodraeth Ganolog mewn perthynas â Chymru.

Ystyr â’r* yw:

  • ar y cyd
  • ar yr un pryd
  • gyda chaniatâd
  • ar ôl ymgynghori â
  • gyda chymeradwyaeth
  • trwy gytundeb â
  • cymeradwywyd gan gynnig a basiwyd gan y Cynulliad

Offerynnau Statudol

Mae pob tudalen sy'n dadansoddi Offeryn Statudol wedi’i rhannu'n ddarnau, fel nodir isod.

  • crynodeb.
  • yr awdurdod a arolygodd lunio'r Offeryn.
  • is-ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd gan yr Offeryn.
  • diwygiadau i'r Offeryn.

Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI)

Ar dudalennau 'Deddfau ac Offerynnau Statudol', ceir arfbais OPSI oren neu wyrdd yng nghornel dde uchaf y dudalen. Mae'r arfbeisiau hyn yn darparu dolenni i destun llawn o’r Ddeddf neu’r Offeryn Statudol yn Saesneg (oren) neu’n Gymraeg (gwyrdd).

Mae gwefan OPSI yn darparu ‘r testun fel y cafodd ei ddeddfu’n wreiddiol, heb unrhyw ddiwygiadau. Nid yw felly’n adlewyrchu’r testun cyfredol cyfreithiol os caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth bellach.

   

© Ysgol y Gyfraith Caerdydd Ffôn: +44 (0)29 208 74644
Ffacs:
+44 (0)29 208 74479
enquiries@waleslegislation.org.uk