|
Ysgol y Gyfraith Caerdydd sydd wedi creu’r gwasanaeth hwn er
mwyn cynorthwyo aelodau’r proffesiwn cyfreithiol, y byd academaidd
a chymunedau sector cyhoeddus a phreifat ehangach, a’r cyhoedd
yn gyffredinol, i gael gwybod am y swyddogaethau sydd wedi’u trosglwyddo
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sy’n cael eu gweithredu ganddo.
Cefnogwyd y gwasanaeth gan Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau
(AHRB) ac mae’n cael ei ariannu’n llwyr bellach gan Wasanaeth
Seneddol y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Isod ceir arweiniad byr i gwmpas y Gwasanaeth a sut i’w ddefnyddio.
Amcanion y Gwasanaeth
Nid oes modd rhoi swyddogaethau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar waith ar sail meysydd pwnc, fel sy’n
wir gyda datganoli yn yr Alban. Mae’r rhan fwyaf o swyddogaethau’r
Cynulliad yn adlewyrchu swyddogaethau Gweinidogion a nodir mewn
Deddfau Seneddol penodol, Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau
a Gorchmynion Dynodi’r UE. Mae graddau swyddogaethau’r
Cynulliad, felly, yn amrywio o Ddeddf i Ddeddf. Mae’r Gwasanaeth
yn ceisio nodi’r swyddogaethau hyn fesul pwnc gydag eglurhad
o’r rhai hynny sy’n parhau yn nwylo’r llywodraeth
ganolog mewn perthynas â Chymru.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn crynhoi’r offerynnau statudol cyffredinol
sy’n cael eu cyflwyno gan y Cynulliad, naill ai ar ei ben ei hun,
neu gyda’r llywodraeth ganolog neu gyrff eraill. Mae hefyd yn crynhoi’r
offerynnau statudol cyffredinol sy’n berthnasol i Gymru sy’n
cael eu cyflwyno gan y llywodraeth ganolog dan ei ‘swyddogaethau
wedi’u cadw’ yn y Deddfau sy’n rhoi pwerau i’r
Cynulliad.
Defnyddio’r Gwasanaeth
Trefnir y Gwasanaeth yn ddwy ran sy’n eich galluogi i nodi yn
y rhan gyntaf y Deddfau a’r Gorchmynion hynny sy’n trosglwyddo
neu’n rhoi swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â’r
swyddogaethau hynny sy’n berthnasol i Gymru sy’n parhau yn
nwylo’r llywodraeth ganolog. Trefnir y Deddfau dan y penawdau a
ddefnyddir yn Atodlen 2 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Yn yr ail ran gallwch
nodi offerynnau statudol cyffredinol sy’n cael eu cyflwyno gan
Gynulliad Cenedlaethol Cymru, offerynnau statudol cyffredinol sy’n
berthnasol i Gymru a gyflwynir gan y llywodraeth ganolog, offerynnau
statudol cyffredinol a gyflwynir ar y cyd â’r llywodraeth
ganolog, a gorchmynion cychwyn. Rhestrir yr Offerynnau Statudol hyn ar
sail trefn rifol ac yn nhrefn yr wyddor.
Sylwadau Cyffredinol ar swyddogaethau’r Cynulliad
Ar yr wyneb, dim ond nifer cyfyngedig o swyddogaethau a roddwyd i’r
Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Er bod adran 40 o Ddeddf
1998 yn galluogi’r Cynulliad i wneud unrhyw beth sy’n hwyluso,
ffafrio neu’n achosi iddo ymarfer ei swyddogaethau, mae’r
swyddogaethau gwirioneddol a nodir yn Neddf 1998 yn gyfyngedig. Mae’r
swyddogaethau yn ymwneud â’r pwer i ddiwygio awdurdodau iechyd
Cymru (adran 27) ac i ddiwygio rhai cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru
(adran 28 a Rhannau I a II Atodlen 4). Mae’n cynnwys pwerau cyffredinol
hefyd i alluogi’r Cynulliad i wneud unrhyw beth mae’n ystyried
yn briodol i gefnogi diwylliant, chwaraeon, yr iaith Gymraeg ac adeiladau
o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol (adran 32).
Fodd bynnag, ac eithrio’r pwerau hyn mewn meysydd pwnc, mae’r
Cynulliad yn ddibynnol ar bwerau penodol i gyflawni ei swyddogaethau
ac nid ar feysydd pwnc cyffredinol fel yn achos Senedd yr Alban. Gan
mai’r polisi cyffredinol oedd rhoi’r pwerau hynny oedd yn
cael eu gweithredu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 30 Mehefin 1999
yn unig i’r Cynulliad, bu’n rhaid creu system gymhleth ar
gyfer trosglwyddo swyddogaethau a nodwyd yng Ngorchymyn (Trosglwyddo
Swyddogaethau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999, (OS 672/1999). Mae’r
Gorchymyn hwn, a wnaed dan adran 22 y Ddeddf, yn nodi’r pwerau
sydd wedi’u gweithredu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bennaf
trwy drefniant gweinyddol â’r llywodraeth ganolog. Gwnaed
gorchmynion pellach dan adran 22 ac adran 29 y Ddeddf (pwerau a roddwyd
i’r Cynulliad i weithredu rhai agweddau ar gyfarwyddebau’r
UE).
Gan mai anaml iawn y cyfeirir at swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn
Deddfau Seneddol (fel rheol, rhoddir y term “Ysgrifennydd Gwladol”)
roedd gofyn i’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau cyntaf wneud
darpariaethau gwahanol ar gyfer gweithredu swyddogaethau gweinidogol
a nodwyd yn llawer o’r Deddfau Seneddol y cyfeiriwyd atynt yn y
Gorchymyn. Canlyniad hyn yw fod darpariaethau Deddfau Seneddol, y cyfeiriwyd
atynt yn y Gorchymyn, na chawsant eu llunio i’w torri, wedi’u
dyrannu – rhai i’r Cynulliad a rhai i’r llywodraeth
ganolog, a rhai i’w gweithredu gan y Cynulliad gyda rhywfaint o
gyfraniad gan y llywodraeth ganolog. Mae hyn yn gyffredinol wir hefyd
am Ddeddfau Seneddol a gafodd eu pasio ar ôl Gorffennaf 1999 sy’n
rhoi pwerau uniongyrchol i’r Cynulliad. Gan mai dim ond swyddogaethau
a roddir yn benodol iddo y gall y Cynulliad eu gweithredu, amser a ddengys
a fydd gan y Cynulliad gorff o swyddogaethau cydlynol digonol i’w
alluogi i lunio a gweithredu polisïau ar ei ben ei hun, heb wneud
cais i’r llywodraeth ganolog am gael defnyddio ei bwerau i weithredu
polisïau.
|