|
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 Mewn Dofednod) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3309 (Cy.299)) a Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 Mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3310 (Cy.300)) er mwyn ychwanegu bwyd amrwd i anifeiliaid anwes at y rhestr o sgil-gynhyrchion y gellir eu symud o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol o dan y naill Orchymyn a'r llall. |